CYNGOR TREF DOLGELLAU Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 116 Hysbysiad o Gyfethol RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Dolgellau yn bwriadu Cyfethol 3 Aelodau i lenwi’r lle(oedd) gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymunedau Ward Ddeheuol (3 seddi Gwag ). Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hyn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol: • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.2 Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch drwy lythyr neu ebost â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned, Mr Rhys Williams yn 12 Nant y Gader, Dolgellau. Gwynedd. LL40 1LB Ffon 01341 421071 Ebost rhys.r.williams@talk21.com Dim hwyrach na Dydd Llun,Ionawr 2, 2023 Dyddiedig y 8 fed diwrnod hwn o Rhagfyr . 2022