Melin Wlan Dolgellau

 

Melin Wlan Dolgellau  

Pan oeddwn yn yr ysgol cefais wybod digon am ddiwydiant gwlân Swydd Efrog, y ffatrioedd, James Hargreaves a’r spinning jenny a’i lle yn y chwyldro diwydiannol heb gael dysgu dim am rôl bwysig Dolgellau yn y diwydiant hynny. Mae’n bur debyg nad ydy hynny wedi newid llawer hyd Y Diwydiant Gwlân yn Nolgellau heddiw yn anffodus.

Yn blentyn, roeddwn yn gwybod am y Ffatri Fawr, Pandy’r Odyn a Phandy Bach ac yn chwarae yng Nghoed y Pandy heb ystyried dim o ble daeth yr enwau hyn. Erbyn heddiw mae’r enwau yn parhau ond myrddynod ac olion ydy’r rhan fwyaf ac atgof pell iawn ydy’r diwydiant a roddodd y cyfoeth i Ddolgellau ddatblygu fel tref.

Yng nghyfarfod o Gyngor Tref Dolgellau ym mis Tachwedd 2018 penderfynwyd llunio grwp a fyddai yn edrych i mewn i gadwraeth yr etifeddiaeth ddiwydiannol yma. Efallai y gellir sicrhau nad ydy’r adeiladau yma’n dadfeilio ymhellach, efallai bydd modd nodi eu pwysigrwydd yn hanes y dref mewn rhyw fodd. Cawn weld beth sy’n bosib.

Cynghorydd Ywain Myfyr  


Ffati'r Aberneint

 

 

Melin y Pandy

 

 

Ffati'r Wenallt