Croeso i wefan Cyngor Tref Dolgellau

Welcome to Dolgellau Town Council Website

 Lleolir Dolgellau yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ar yr A470, y brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru. Mae’r ardal leol yn adnabyddus am ei chefn gwlad gwyllt a phrydferth, ei golygfeydd godidog a mannau o ddiddordeb hanesyddol. Mae’r dref yn adnabyddus am bensaerniaeth prydferth ei adeiladau hynafol, ac mae sawl un o’r adeiladau yma gyda statws gwarchodedig neu cofrestredig.

Mae’n dref sy’n boblogaidd á thwrisitiaid sy’n mwynhau cerdded, heicio, mynydda, dringo, seiclo, marchogaeth, rafftio neu i’r rhai hynny sy’n mwynhau crwydro o amgylch y dref yn ymweld â’r tai coffi, y bwytai, neu’r gwestai. Mae hefyd yn ganolfan dda ar gyfer ymweld â rheilffyrdd cul gan fod yma sawl un yn yr adral.
Yn gefndir godidog i’r dref mae un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Eryri sef Cader Idris, ac mae’r mynydd yma’n boblogaidd iawn gyda cerddwyr a dringwyr.
Ychydig bellter i ffwrdd lleolir Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin sydd yn gartref i un o ganolfanau beicio mynydd gorau’r wlad yn ogystal á chynnwys llwybrau natur a llwybrau i gerddwyr.

Mae prif faes parcio’r dref ar y Marian yn fan cychwyn i Lwybr Mawddach, llwybr s’yn dilyn llwybr hen Rheilffordd y Cambrian am 8 milltir ar hyd aber Morfa Mawddach cyn croesi pont rheilffordd y Mawddach a chyrraedd tref Bermo. Mae’r llwybr yma yn boblogaidd iawn gyda cerddwyr a beicwyr.

Rhyw ddwy filltir o’r dref mae Abaty Cymer, a gafodd ei sefydlu gan y Mynaich Gywnion yn 1198. Chwaraeodd Dolgellau ról bwysig yn hanes datblygiad diwydiant gwlán y rhan yma o’r byd. Er hynny, efallai bod Dolgellau fwyaf adnabyddus fel canolfan cloddio Aur Cymru, gan fod amryw o hen gloddfeydd yn y bryniau cyfagos.